Telerau ac Amodau Defnydd

Mae telerau ac amodau llawn ar gyfer defnyddio gwefan Parkingeye i’w gweld isod. Ar gyfer telerau ac amodau archeb brynu dilynwch y ddolen isod.

Cars back to back
Cars back to back

Explore more

Car Icon

Croeso i www.parkingeye.co.uk (“Gwefan PE”)

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio’r Wefan PE. Trwy ddefnyddio’r Wefan PE, rydych yn nodi eich bod yn cytuno i fod yn rhwym i’r telerau ac amodau hyn.

Ynglŷn â’r Wefan PE

Yn y telerau ac amodau hyn mae cyfeiriadau at “Parkingeye”, “Rydym”, “Ein” ac “Ni” yn gyfeiriadau at Parkingeye Limited, bydd cyfeiriadau at “Perchennog y Tir” yn gyfeiriadau at lesddeiliad neu rydd-ddeiliad unrhyw faes parcio â gwasanaeth ParkingEye penodo,. bydd cyfeiriadau at y “Prosesydd Taliadau” yn gyfeiriadau at Capita Business Services Limited sy’n masnachu fel Pay360.

Hysbysiad Hawlfraint ac Eiddo Deallusol Arall

© 2021 Parkingeye Limited.

Wedi’i gofrestru yn Lloegr. Rhif Cofrestru Cwmni: 05134454. Swyddfa Gofrestredig: 40 Eaton Avenue, Buckshaw Village, Chorley, Sir Gaerhirfryn PR7 7NA

Ffôn: 0330 555 4444

Mae’r holl gynnwys sydd wedi’i gynnwys yn neu sydd ar gael trwy www.parkingeye.co.uk, megis testun, graffeg, logos, eiconau botwm, delweddau a chrynodiadau data yn eiddo i Parkingeye Limited neu ddarparwyr cynnwys ac wedi’i warchod gan hawlfraint y DU ac unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill sy’n bodoli ynddo, ac eithrio lle nodir yn benodol. Gwaherddir yn benodol copïo neu atgynhyrchu unrhyw ran o’r wefan hon ar unrhyw ffurf, gan gynnwys cyfryngau electronig.

Mae’r holl nodau masnach a ddangosir ar y wefan hon yn eiddo i Parkingeye Limited.

Cyffredinol

Sylwch y gallai telerau ac amodau pellach fod yn berthnasol i ddefnyddio gwahanol swyddogaethau o fewn y Wefan PE ac ar gyfer unrhyw swyddogaeth a gynhelir ar wahân. E.e. pan fyddwch yn dewis y swyddogaeth Talu Ar-lein ar y Wefan PE, byddwch yn cael eich ailgyfeirio at y Prosesydd Taliadau ar eu datrysiad talu a gynhelir ganddynt.

Mae Parkingeye yn cadw’r hawl i ddiweddaru’r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg trwy arddangos telerau ac amodau diwygiedig ar y Wefan PE a bernir eich bod wedi cytuno i’r telerau ac amodau diwygiedig y tro nesaf y byddwch yn defnyddio’r Wefan PE.

Mae’r Polisi Preifatrwydd a’r Polisi Cwcis yn rhan o delerau ac amodau defnyddio’r Wefan PE. Sylwch y gall gwahanol bolisïau preifatrwydd a chwcis fod yn berthnasol i ddefnyddio gwahanol swyddogaethau o fewn y Wefan PE ac ar gyfer unrhyw swyddogaeth a gynhelir ar wahân.

Lle mae cynigion Parkingeye Limited yn fanwl neu pan ddarperir cynnwys trydydd parti arall, byddwn yn amlygu i chi mai gwasanaethau neu gynnwys trydydd parti yw’r rhain.

Defnydd o Gyfathrebiadau Electronig

Pan fyddwch yn defnyddio’r Wefan PE neu’n anfon e-byst, negeseuon testun, a chyfathrebiadau eraill o’ch bwrdd gwaith neu ddyfais symudol atom Ni, rydych yn cyfathrebu â ni’n electronig. Byddwn yn cyfathrebu â chi yn electronig mewn amrywiaeth o ffyrdd, megis e-bost. At ddibenion ymateb i’ch ymholiad, apêl neu gyfathrebiad arall, rydych yn cydsynio i dderbyn cyfathrebiadau gennym Ni yn electronig ac rydych yn cytuno bod yr holl gytundebau, hysbysiadau, datgeliadau a chyfathrebiadau eraill a ddarparwn i chi yn electronig yn bodloni unrhyw ofyniad cyfreithiol bod cyfathrebiadau o’r fath yn ysgrifenedig, oni bai bod deddfau cymwys gorfodol yn gofyn yn benodol am ffurf wahanol ar gyfathrebu.

Defnyddio’r Wefan PE

Os ydych chi’n defnyddio’r Wefan PE ar gyfer ac ar ran unrhyw berson arall, mae’n rhaid i chi gael eu caniatâd i ddarparu eu gwybodaeth bersonol ac i gymryd unrhyw gamau y gallwch eu cymryd, yn eu henw.

Os nad ydych yn gweithredu drosoch eich hun neu os nad oes gennych ganiatâd y person rydych yn honni eich bod yn gweithredu ar ei ran, peidiwch â bwrw ymlaen.

Datganiad

Nid wyf yn defnyddio’r Wefan PE ar ran rhywun arall neu mae gennyf ganiatâd y person yr wyf yn gweithredu ar ei ran.

Cewch fynediad i Wefan PE er mwyn:

  • dysgu rhagor amdanom Ni a’r gwasanaethau a gynigiwn a gofyn am ragor o wybodaeth am Ein gwasanaethau neu sectorau;
  • dod o hyd i ddolenni i Ein cymdeithas fasnach, Safonau’r Diwydiant Rydym yn cadw atynt, Cwestiynau Cyffredin a chanllawiau a gwybodaeth a dolenni defnyddiol;
  • talu Tâl Parcio trwy Ein Prosesydd Taliadau Ar-lein;
  • cyflwyno apêl ar-lein yn uniongyrchol i’n Tîm Apeliadau;
  • dod o hyd i adnoddau a manylion cyswllt ar gyfer gwneud ymholiad am ddata, os ydych yn Heddlu neu’n asiantaeth awdurdodedig arall; neu
  • cyrchu’r Porth Cleientiaid.

Gallwn ni newid neu derfynu unrhyw nodwedd o’r Wefan PE. Drwy fynd ymlaen i ddefnyddio’r Wefan PE rydych yn cydsynio y gallwn Ni brosesu’r data personol (gan gynnwys data personol sensitif) rydym yn eu casglu oddi wrthych yn unol â’n Polisi Preifatrwydd.

Rhwymedigaethau a Chyfyngiadau Defnyddwyr

Ni fyddwch yn defnyddio’r Wefan PE at unrhyw ddiben anghyfreithlon gan gynnwys:

  • postio deunydd sy’n cynnwys unrhyw feirws neu ymyrryd â gweithrediad y wefan neu geisio dehongli, neu addasu unrhyw un o’r meddalwedd, y codau neu’r wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon;
  • darparu gwybodaeth ffug, anghywir neu gamarweiniol;
  • torri unrhyw ddeddfau, rheoliadau, trwyddedau neu hawliau trydydd parti perthnasol;
  • rhyng-gipio’n bwrpasol, cyrchu heb awdurdod neu ddifeddiannu unrhyw system, data neu ddata personol, fel y’i diffinnir yn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ((UE)2016/679)

Gallai methu â chydymffurfio â’r telerau hyn olygu y byddwn ni’n cymryd pob un o’r camau canlynol neu unrhyw rai ohonynt:

  • Tynnu’n ôl ar unwaith, dros dro neu’n barhaol eich hawl i ddefnyddio’r Wefan PE;
  • Cael gwared ar unwaith, dros dro neu’n barhaol ar unrhyw gyfraniad a lanlwythwyd gennych i’r Wefan PE;
  • Rhoi rhybudd i chi;
  • Camau cyfreithiol yn eich erbyn; a / neu
  • Datgelu gwybodaeth o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith y teimlwn yn rhesymol sy’n angenrheidiol neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Nid yw’r camau y gallem Ni eu cymryd wedi’u cyfyngu i’r rhai a ddisgrifir uchod, a gallem Ni gymryd unrhyw gamau eraill sy’n rhesymol briodol yn ein barn ni.

Rydych yn cytuno i ad-dalu Parkingeye Limited a’i ddarparwyr cynnwys yn llawn mewn perthynas â’r holl golledion, costau, gweithredoedd, hawliadau a rhwymedigaethau a dynnir gan Parkingeye o ganlyniad i unrhyw achos o dorri’r telerau hyn neu unrhyw ddata a gyflwynwyd gennych i Ni.

Ein Hatebolrwydd

Mae’r wybodaeth ar y wefan hon wedi’i chynnwys yn ddidwyll ond er gwybodaeth gyffredinol yn unig y mae ac ni ddylid dibynnu arni at unrhyw ddiben penodol. Ni roddir unrhyw gynrychiolaeth na gwarant gennym Ni na’n darparwyr cynnwys o ran cywirdeb gwybodaeth ar y Wefan PE ac ni fydd unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, difrod neu gost sy’n codi mewn contract, camwedd neu fel arall o unrhyw ddibyniaeth ar y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon, mynediad i, defnydd neu anallu i ddefnyddio’r WefanP E. Gall Parkingye yn ôl ei ddisgresiwn llwyr newid neu derfynu unrhyw nodwedd o’r Wefan PE.

Bydd Parkingeye yn gwneud pob ymdrech resymol i wahardd firysau o’r safle ond ni all warantu hyn. Dylech gymryd camau priodol i roi meddalwedd gwrth-firws ar waith ac unrhyw fesurau rhesymol eraill mewn perthynas â hyn.

Byddwn ni’yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y bydd argaeledd y Wefan PE yn ddi-dor ac y bydd trosglwyddiadau yn rhydd rhag gwallau. Fodd bynnag, oherwydd natur y rhyngrwyd, ni ellir gwarantu hyn. Hefyd, efallai y bydd eich mynediad i’r Wefan PE hefyd yn cael ei atal neu ei gyfyngu o bryd i’w gilydd er mwyn caniatáu ar gyfer atgyweirio, cynnal a chadw, neu gyflwyno cyfleusterau neu wasanaethau newydd. Byddwn yn ceisio cyfyngu ar amlder a hyd unrhyw ataliad neu gyfyngiad o’r fath.

Ni fyddwn Ni, Ein hasiantau, is-gontractwyr a/neu ddarparwyr cynnwys, yn gyfrifol am (i) golledion na chawsant eu hachosi gan unrhyw doriad ar Ein rhan Ni neu Ein hasiantau, is-gontractwyr neu ddarparwyr cynnwys wrth ddarparu’r Wefan PE, neu (ii) unrhyw golledion busnes (gan gynnwys colli elw, refeniw, contractau, arbedion a ragwelir, data, ewyllys da neu wariant a wastraffwyd), neu (iii) unrhyw golledion anuniongyrchol neu ganlyniadol na ellid eu rhagweld i chi a Ni, Ein hasiantau, isgontractwyr neu ddarparwyr cynnwys, pan ddechreuoch chi ddefnyddio’r Wefan PR.

Ni fyddwn ni, Ein hasiantau, is-gontractwyr a/neu ddarparwyr cynnwys, yn gyfrifol am unrhyw oedi neu fethiant i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau o dan yr amodau hyn, os yw’r oedi neu fethiant yn deillio o unrhyw achos sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol Ni, neu reolaeth resymol Ein hasiantau, is-gontractwyr neu ddarparwyr cynnwys.

Nid oes dim yn yr amodau hyn yn cyfyngu nac yn eithrio Ein cyfrifoldeb am sylwadau twyllodrus a wneir gennym Ni, Ein hasiantau neu is-gontractwyr neu am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan Ein hesgeulustod neu gamymddwyn bwriadol Ni, Ein hasiantau neu is-gontractwyr,.

Cyfraith Gymhwysol

Mae’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn yn ddarostyngedig i gyfraith Lloegr. Dylai unrhyw anghydfod sy’n codi o’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn gael eu trin gan lysoedd Cymru neu Loegr. Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd Rydym yn delio ag unrhyw anghytundeb a’ch bod am ddwyn achos llys, rhaid i chi wneud hynny yng Nghymru neu Loegr.

Mynediad i ardal ddiogel Porth y Cleient ar Wefan PE (“Porth Cleientiaid”)

Mae rhai adrannau o’r wefan hon yn gyfyngedig ac yn hygyrch i ddefnyddwyr awdurdodedig yn unig. Chi yn unig sy’n gyfrifol am gadw cyfrinachedd unrhyw enw defnyddiwr a chyfrinair a roddir i chi gan Parkingeye. Ni fyddwch yn camddefnyddio nac yn rhannu’r cyfrinair a neilltuwyd i chi.

Fel defnyddiwr awdurdodedig o’r Porth Cleientiaid, rydych hefyd yn rhwym i’r Telerau ac Amodau Defnydd ychwanegol canlynol. Yn unol â hynny, dylech eu hadolygu mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw ran(nau) o’r wefan.

Trwy gyrchu’r adran Porth Cleientiaid hon o’r wefan, rydych hefyd yn derbyn y Telerau ac Amodau Defnydd ychwanegol hyn ac yn caffael hawl anghyfyngedig i:

  • Gweld y deunydd yn y wefan;
  • Cyrchu deunydd a gynhwysir yn y wefan;
  • Lawrlwytho a defnyddio unrhyw ddeunydd a gynhwysir yn y wefan at ddiben dros dro (fel gwylio all-lein); a
  • Lawrlwytho deunydd sydd wedi’i gynnwys yn y wefan i chi neu’ch cyflogeion ei atgynhyrchu.

Rhwymedigaethau Defnyddwyr

Rydych chi drwy hyn yn ymgymryd â’r rhwymedigaethau canlynol:

  • Sicrhau bod eich cyflogeion, isgontractwyr ac unrhyw asiantau eraill (os oes rhai) sydd â mynediad awdurdodedig i’r Porth Cleientiaid yn ymwybodol o’r holl Delerau ac Amodau Defnydd;
  • Peidio â darparu neu ddarparu fel arall unrhyw ddeunydd yn y Porth Cleientiaid mewn unrhyw ffurf i unrhyw berson ac eithrio cyflogeion, is-gontractwyr ac asiantau eraill (os o gwbl) heb ganiatâd ysgrifenedig Parkingeye, ac eithrio lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith;
  • Peidio â darparu neu wneud ar gael fel arall unrhyw wybodaeth bersonol neu bersonol sensitif, nad oes gennych ganiatâd gwrthrych y data (neu mewn perthynas â data personol sensitif, caniatâd ysgrifenedig) i’w rhoi i Parkingeye at ddibenion rheoli maes parcio; a
  • Peidio â darparu unrhyw ddata neu ddeunydd arall sy’n cario IPR, nad ydych yn fodlon ei gyflenwi’n ddi-freindal, a hynny’n barhaus, at ddiben cynnal y gwasanaeth rheoli meysydd parcio.

Rydych yn cytuno i ad-dalu Parkingeye yn llawn mewn perthynas â’r holl golledion, costau, gweithredoedd, hawliadau a rhwymedigaethau a dynnir gan Parkingeye o ganlyniad i unrhyw achos o dorri’r rhwymedigaethau defnyddiwr hyn neu unrhyw ddata a gyflwynwyd gennych chi i Ni, neu i chi gennym Ni, ac eithrio yn unol â’r telerau ac amodau hyn.

Ni roddir unrhyw sylwadau na gwarant o ran cywirdeb gwybodaeth ar y Porth Cleientiaid ac ni fydd unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, difrod neu gost sy’n codi mewn contract, camwedd neu fel arall o unrhyw ddibyniaeth ar wybodaeth a gynhwysir yn y Porth Cleientiaid, mynediad i ddefnydd neu anallu i ddefnyddio’r Porth Cleientiaid. Rydych yn derbyn nad yw Parkingeye yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad sy’n ymwneud â’r deunydd a gynhwysir yn y Porth Cleientiaid.

Mae hawlfraint a hawliau IP eraill sy’n bodoli yng nghynnwys y Porth Cleientiaid, gan gynnwys heb gyfyngiad yr holl nodau masnach, testun, graffeg, adroddiadau, data neu ddata a gwybodaeth a gasglwyd, ac eithrio lle nodir yn benodol, yn eiddo i Parkingeye.

Pan derfynir eich hawl i ddefnyddio’r Porth Cleientiaid, rhaid i chi ddinistrio unrhyw gopïau, electronig ac argraffedig, o ddeunydd a gafwyd o’r Porth Cleientiaid sydd gennych yn eich meddiant neu o dan eich rheolaeth neu fel arall dychwelyd neu waredu deunydd o’r fath yn y modd a gyfarwyddir gan Parkingye.

Cyfraith Gymhwysol

Mae’r Telerau ac Amodau Defnydd ychwanegol hyn mewn perthynas â’r Porth Cleientiaid yn ddarostyngedig i gyfraith Lloegr. Dylai unrhyw anghydfod sy’n codi o’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn mewn perthynas â’r Porth Cleientiaid gael ei drin gan y llysoedd yng Nghymru neu Loegr. Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd Rydym yn delio ag unrhyw anghytundeb a’ch bod am ddwyn achos llys, rhaid i chi wneud hynny yng Nghymru neu Loegr.